Neidio i'r prif gynnwy

Ble Chaiff Fy Mabi Ei Geni?

Yn anffodus, oherwydd y pandemig Coronafeirws, mae ein canolfannau geni annibynnol dan arweiniad bydwreigiaeth ar gau tan 4 Ionawr 2021. Gweler tudalen Facebook ein gwasanaethau mamolaeth am ddiweddariadau. Mae pob un o'r pedwar opsiwn man geni ar gael o hyd. 

 
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o opsiynau man geni. Ymhlith yr opsiynau mae:
 
  • Genedigaeth gartref
  • Ardal dan arweiniad bydwreigiaeth ar ei phen ei hun yn Ysbyty Ystrad Fawr (Ystrad Mynach)
  • Pod geni dan arweiniad bydwreigiaeth annibynnol yn Ysbyty Aneurin Bevan (Glyn Ebwy)
  • Ardal dan arweiniad bydwreigiaeth ar ei phen ei hun yn Ysbyty Nevill Hall (Y Fenni)
  • Ardal dan arweiniad bydwreigiaeth ar ei phen ei hun yn Ysbyty Brenhinol Gwent (Casnewydd)
  • Ardal eni dan arweiniad ymgynghorwyr yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor
  • Ardal dan arweiniad bydwreigiaeth gerllaw yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor
Rydym yn argymell eich bod yn darllen y daflen penderfyniadau man geni, yn edrych ar ein rhith-deithiau, a siarad â'ch bydwraig am eich gofal mamolaeth a pha opsiwn sy'n addas i'ch anghenion unigol a dymuniadau.

Er mwyn helpu gyda'ch penderfyniadau, rydym wedi cyhoeddi dau lyfr sy'n llawn straeon genedigaeth go iawn gan ferched sydd wedi rhoi genedigaeth o fewn gwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Nod y straeon yw rhoi hyder i fenywod yn eu cyrff mewn perthynas â genedigaeth, ac maent yn llawn 'perlau doethineb' a all eich helpu i gael profiad geni cadarnhaol lle bynnag y dewiswch eni.

Mae llyfrau Eich Geni: straeon o ardaloedd dan arweiniad bydwreigiaeth ac Eich Geni: straeon o ardaloedd dan arweiniad ymgynghorwyr gan Emma Mills a Louise Taylor ill dau ar gael ar Amazon. Mae pob breindal yn mynd yn ôl yn uniongyrchol i wasanaethau mamolaeth BIPAB i wella'r amgylcheddau geni, i gynnig hyfforddiant ychwanegol i staff mewn gwasanaethau fel ioga ac dyfrhaen, ac ar gyfer datblygu staff.

Gallwch weld rhith-deithiau ar dudalen Facebook Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
 

Ychwanegwch deithiau rhithwir, taflen penderfyniadau Man Geni, dolenni i'r llyfrau, rhifau ffôn ar gyfer pob ardal glinigol / geni.