Neidio i'r prif gynnwy

Hepatoleg

Cyflwyniad i Uned Afu Gwent

Hepatoleg, neu'r arbenigedd sy'n ymwneud â gofalu am gleifion â chyflyrau sy'n effeithio ar yr afu/iau, yw un o'r arbenigeddau mwyaf diweddar i'w ddatblygu. Mae meddygon sy'n arbenigo mewn clefydau'r galon (cardiolegwyr) neu'r ysgyfaint (meddygon anadlol), er enghraifft, wedi bodoli ers canrifoedd, ond ers blynyddoedd lawer roedd cleifion â chlefydau'r afu yn derbyn gofal gan arbenigwyr sy'n delio â holl anhwylderau'r coluddyn (gastroenterolegwyr). Wrth i fwy ddod yn hysbys ac wrth i driniaethau ddod yn fwy cymhleth, mae angen i gleifion â chlefyd yr afu gael gofal gan y rhai sydd â diddordeb penodol.

Wrth gwrs, nid meddygon yn unig sy'n gofalu am gleifion! Darperir gofal cleifion gan nyrsys ar y wardiau, mewn clinigau cleifion allanol ac mewn endosgopi, gan gynorthwywyr gofal iechyd, dietegwyr, seiciatryddion, ffisiotherapyddion, therapyddion ymarfer corff, cynghorwyr cyffuriau ac alcohol, a chaiff ei oruchwylio gan dimau rheoli sy'n adrodd i rwydwaith sy'n sicrhau bod y gofal hwn yn cael ei ariannu gan y Bwrdd Iechyd. Nid yw cleifion yn cyrraedd y tîm afu yn syth ychwaith – mae meddygon teulu, parafeddygon, staff yr adran achosion brys a staff ar alwad mewn unedau asesu meddygol a llawfeddygol i gyd yn chwarae rôl.

Mae cymhlethdod gofalu am gleifion â chlefyd yr afu, a natur clefyd yr afu ei hun yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sy’n ymwneud â darparu gofal iechyd fod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf, neu o leiaf, yn gwybod pwy i’w ffonio.

Ffurfiwyd Uned Afu Gwent yn 2012 gan Dr Marek Czajkowski ac Andrew Yeoman, a benodwyd i ddechrau fel gastroenterolegwyr rai blynyddoedd ynghynt, ond oedd â diddordeb arbennig mewn clefyd yr afu. Dechreuwyd Ymddiriedolaeth Afu Gwent ar yr un pryd yn dilyn rhodd gan weddw claf, a oedd yn gwerthfawrogi bod ei gŵr wedi’i reoli gan dîm gwybodus a brwdfrydig, ac sy’n cronni arian ar gyfer addysgu nyrsys a staff anfeddygol.

Y pwrpas oedd creu grŵp a fyddai’n cydweithio i addysgu ein hunain ac eraill am glefyd yr afu ac i ddarparu’r gofal gorau posibl i gleifion â chlefyd yr afu. Rydym bellach yn dîm o 6 ymgynghorydd, 4 nyrs arbenigol, 1 Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd a 4 aelod o staff cyswllt Alcohol, ynghyd â staff nyrsio ar ward iau bwrpasol (A4 yn Ysbyty Athrofaol y Faenor), staff endosgopi, a'n Huned Gofal Dyddiol. Mae'r tudalennau hyn yn gyflwyniad i rai o aelodau ein tîm.

Rydym wedi ymrwymo i:

  • bod yn agored i awgrymiadau a pharhau i ddatblygu gyda chymorth ein cleifion a’n staff i sicrhau bod y gofal gorau a mwyaf diweddar ar gael i’n cleifion
  • cynnal proffil hepatoleg i sicrhau ariannu teg ac ymwybyddiaeth sefydliadol
  • darparu a hwyluso addysg ar gyfer staff clinigol ac anghlinigol i wella’r gofal y mae cleifion â chlefyd yr afu yn ei dderbyn o’r adeg y cânt eu derbyn i’r ysbyty ac yn y gymuned
  • arloesi a chasglu gwybodaeth sy’n ein helpu i newid y ffordd rydym yn darparu gofal er gwell
  • rhannu'r hyn a wyddom gyda chydweithwyr a chleifion