Meddyginiaethau - Dewch â'ch Meddyginiaethau gyda chi i'r Ysbyty

Os ydych chi'n dod i'r ysbyty, dewch â'ch meddyginiaethau rheolaidd gyda chi lle bynnag y bo modd.

Os na allwch chu eich hun ddod â nhw, gallwch ofyn i berthynas, ffrind neu ofalwr ddod â nhw i mewn i chi.

Mae dod â'ch meddyginiaethau o'r cartref yn helpu ein timau gofal iechyd i:

  • ddeall yn union pa feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd
  • sicrhau y gall eich triniaeth fynd rhagddi’n ddiogel
  • osgoi oedi diangen
  • cefnogi eich rhyddhau o'r ysbyty
  • lleihau gwastraff meddyginiaethau a gwneud gwell defnydd o adnoddau'r GIG.

 

Pa feddyginiaethau sydd angen i mi ddod i’r ysbyty?

Dewch â phob meddyginiaeth a chynnyrch gofal iechyd rydych chi'n eu defnyddio ar hyn o bryd, yn ddelfrydol yn eu pecynnu gwreiddiol, wedi'u labelu.

Os yw’r rhain gennych, mae hefyd yn ddefnyddiol dod â rhestr o feddyginiaethau cyfredol, slip presgripsiwn amlroddadwy, llyfryn monitro neu gofnod meddyginiaeth.

Dewch ag unrhyw un o'r canlynol yr ydych chi'n eu defnyddio ar hyn o bryd:

  • tabledi a chapsiwlau presgripsiwn
  • anadlyddion a meddyginiaethau nebwleiddiwr
  • inswlin a chwistrelliadau eraill
  • diferion llygaid a thriniaethau y llygaid, y glust neu’r trwyn eraill
  • hufenau ac eli
  • clytiau
  • meddyginiaethau hylif
  • meddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd dim ond pan fo angen
  • meddyginiaethau y mae angen eu cadw yn yr oergell
  • meddyginiaethau arbenigol, gan gynnwys meddyginiaethau a gyflenwir gan ysbyty neu'n breifat
  • meddyginiaethau treial clinigol
  • Atchwanegiadau fitamin a mwynau
  • cynhyrchion llysieuol ac atodol
  • meddyginiaethau a brynwyd o fferyllfa, archfarchnad neu ar-lein
  • meddyginiaethau achub, megis awto-chwistrellwyr adrenalin neu bigiadau steroid brys
  • unrhyw feddyginiaeth yr ydych wedi rhoi'r gorau i'w chymryd yn ddiweddar, os nad ydych yn siŵr pam y cafodd ei stopio.

 

Cwestiynau Cyffredin

Mae dod â'ch meddyginiaethau gyda chi yn helpu ein meddygon, ein nyrsys a'n timau fferyllol i ddeall yn gyflym beth rydych chi'n ei gymryd ar hyn o bryd. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu gofal diogel, symud eich triniaeth yn ei blaen ac osgoi oedi diangen.

Gall hefyd leihau gwastraff meddyginiaethau a'n helpu i wneud gwell defnydd o adnoddau'r GIG.

Pan fyddwch chi'n dod â meddyginiaethau i'r ysbyty, bydd ein timau gofal iechyd yn sicrhau eu bod yn cael eu cofnodi a'u storio'n ddiogel.

Bydd y staff yn gwirio'ch meddyginiaethau ac yn eu defnyddio i helpu i greu'r cofnod mwyaf cywir posibl o'r hyn rydych chi'n ei gymryd fel arfer. Bydd meddyginiaethau yn cael eu hasesu i sicrhau eu bod yn addas i'w defnyddio yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty.

Byddwn hefyd yn cadw cofnod o feddyginiaethau sy'n cael eu cadw, eu dychwelyd, eu trosglwyddo neu eu gwaredu.

Peidiwch â gadael meddyginiaethau heb oruchwyliaeth mewn ardaloedd derbyn, ar loceri wrth ochr y gwely neu yn eich bag.

Peidiwch â phoeni. Dywedwch wrth aelod o staff pa feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd fel arfer.

Os yw'n bosibl, gallwch ofyn i berthynas, ffrind neu ofalwr ddod â nhw i mewn yn nes ymlaen. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd ein timau yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn derbyn y meddyginiaethau sydd eu hangen arnoch.

Rydym yn deall efallai na fydd gennych amser i gasglu eich meddyginiaethau os cewch eich derbyn mewn argyfwng.

Gall perthynas, ffrind neu ofalwr ddod â nhw i mewn i chi pan fyddant yn gallu. Os nad yw hyn yn bosibl, dywedwch wrth aelod o staff pa feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd. Os yw ar gael, gall rhestr gyfredol o feddyginiaethau neu slip presgripsiwn amlroddadwy fod yn ddefnyddiol hefyd.

Gallant. Os byddwch yn anghofio eich meddyginiaethau neu os cewch eich derbyn yn annisgwyl, gall rhywun eu dod â nhw i mewn i chi yn nes ymlaen.

Gofynnwch i'r person sy'n eich helpu gyda'ch meddyginiaethau fel arfer i ddod â nhw i mewn, neu i ddarparu gwybodaeth am y meddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd.

Byddwch yn dal i dderbyn y gofal a'r meddyginiaethau sydd eu hangen arnoch.

Fodd bynnag, gall dod â'ch meddyginiaethau o'r cartref helpu ein timau i ddeall eich triniaeth arferol yn gyflymach a gall helpu i atal oedi. Os na allwch ddod â nhw eich hun, ystyriwch a allai perthynas, ffrind neu ofalwr helpu.

Gallant. Bydd meddyginiaethau a ddaw â hwy i'r ysbyty yn cael eu gwirio gan staff hyfforddedig a'u rheoli'n ddiogel yn ystod eich arhosiad.

Dylech, lle bo hynny'n bosibl. Hyd yn oed os nad ydych chi'n aros dros nos, gall dod â'ch meddyginiaethau neu restr gyfredol o feddyginiaethau helpu'r staff i ddeall beth rydych chi'n ei gymryd ar hyn o bryd.

Peidiwch â chymryd eich meddyginiaethau eich hun heb siarad â'ch tîm clinigol yn gyntaf, os gwelwch yn dda.

Gallai cymryd meddyginiaeth heb i'r tîm wybod olygu eich bod yn derbyn dos ychwanegol, a allai achosi niwed.

Dywedwch wrth y tîm sy'n gofalu amdanoch am unrhyw feddyginiaethau rydych chi wedi'u cymryd cyn neu ar ôl cyrraedd yr ysbyty, os gwelwch yn dda.

Mae hynny'n iawn. Os yw'n bosibl, dewch â chynwysyddion neu becynnu'r feddyginiaeth gyda chi. Gall staff ddefnyddio'r labeli i helpu i nodi eich meddyginiaethau a gallant hefyd wirio cofnodion cleifion sydd ar gael.

Dewch â'r pecyn pothell neu'r blwch cydymffurfio gyda chi, os gwelwch yn dda. Gall hyn helpu'r staff i ddeall eich meddyginiaethau arferol a sut rydych chi'n eu cymryd.

Dewch â nhw gyda chi, os gwelwch yn dda, oni bai eich bod wedi cael cyngor penodol i beidio â gwneud hynny.

Bydd y staff yn eu hadolygu ac yn eich cynghori ar sut y dylid eu rheoli yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty.

Dylech. Dewch â'r holl feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd ar hyn o bryd, gan gynnwys cyffuriau rheoledig, os gwelwch yn dda.

Bydd y meddyginiaethau hyn yn cael eu cofnodi a'u storio'n ddiogel pan fyddwch yn cyrraedd. Ni ddylid gadael cyffuriau rheoledig heb eu diogelu wrth eich gwely.

Dylech. Hyd yn oed os mai dim ond un neu ddau o feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd, gall dod â nhw gyda chi ein helpu i sicrhau bod ein cofnodion yn gywir a bod eich triniaeth yn yr ysbyty yn ddiogel ac yn briodol.

Bydd eich meddyginiaethau yn cael eu gwirio i sicrhau eu bod yn addas i'w defnyddio, wedi'u labelu'n gywir, o fewn y dyddiad ac yn ddiogel i chi barhau i'w cymryd yn ystod eich arhosiad.

Os ydych chi'n cymryd nifer o feddyginiaethau, os oes gennych gwestiynau neu bryderon am eich triniaeth, neu os yw eich meddyginiaethau wedi cael eu newid yn ddiweddar, gall fod yn ddefnyddiol dod â'ch meddyginiaethau neu restr gyfredol o feddyginiaethau gyda chi.

Bydd yr ysbyty yn darparu meddyginiaethau pan fo angen.

Fodd bynnag, gall dod â'ch meddyginiaethau eich hun helpu i atal dyblygu diangen, lleihau oedi a rhoi darlun cywir i'r staff o'r meddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd fel arfer. Mae hefyd yn helpu i leihau gwastraff meddyginiaethau ac yn cefnogi GIG mwy cynaliadwy.

Fel arfer, bydd meddyginiaethau sy'n parhau i fod yn addas i chi eu defnyddio yn cael eu dychwelyd atoch pan fyddwch yn cael eich rhyddhau, ynghyd ag unrhyw feddyginiaethau newydd sydd eu hangen arnoch.

Dylai eich meddyginiaethau symud gyda chi drwy gydol eich arhosiad yn yr ysbyty, gan gynnwys os cewch eich trosglwyddo i ward neu safle ysbyty arall, a phan fyddwch yn cael eich rhyddhau.

Os ydych chi'n symud neu'n paratoi i fynd adref, gwiriwch gydag aelod o staff bod eich meddyginiaethau yn symud gyda chi.

Peidiwch â rhoi meddyginiaethau nas defnyddiwyd yn eich sbwriel cartref na'u fflysio i lawr y toiled.

Ewch â meddyginiaethau nas defnyddiwyd i'ch fferyllfa gymunedol fel y gallant gael gwared arni’n ddiogel.