Neidio i'r prif gynnwy

Methiant y Galon

Methiant y Galon

Gall cael diagnosis, neu fyw gyda chyflwr y galon neu gylchrediad y gwaed fod yn frawychus ac yn llethol. Gall darganfod mwy am eich cyflwr, cymryd amser i ddeall sut mae wedi digwydd a sut y bydd yn effeithio ar eich bywyd helpu.

Beth rydym yn ei wneud?

Nod y gwasanaeth Methiant y Galon a arweinir gan Nyrsys yw cefnogi cleifion i reoli eu cyflwr a helpu i adnabod a rheoli eich symptomau. Bydd nyrsys arbenigol yn adolygu meddyginiaeth yn rheolaidd, a gellir ei haddasu o bryd i'w gilydd yn dibynnu ar gyflwr a symptomau'r claf.

Yn yr apwyntiad cyntaf gyda'r nyrs arbenigol, mae opsiwn o ran cynllun triniaeth addas yn cael ei nodi a'i drafod gyda chi. Gall y cynllun hwn gynnwys agweddau ar wahân i feddyginiaeth yn unig, ee adsefydlu cardiaidd gan gynnwys ymarfer corff, addysg ar sut y gall eich diet a'ch ffordd o fyw effeithio ar eich cyflwr neu'ch symptomau.