Neidio i'r prif gynnwy

Mudandod Dethol

Beth yw mudandod dethol?

Mae mudandod dethol yn anhwylder gorbryder sy’n golygu bod unigolyn yn methu'n gyson â siarad mewn rhai sefyllfaoedd (er enghraifft, yn y feithrinfa neu'r ysgol) ond byddant yn gallu siarad yn ddirwystr mewn sefyllfaoedd eraill (er enghraifft, yn y cartref). Gall mudandod dethol ddod i’r amlwg mewn gwahanol ffyrdd i wahanol blant. Bydd rhai plant yn rhewi'n llwyr ac yn dawel mewn rhai sefyllfaoedd, a bydd eraill yn dal i allu ymateb â gair neu ddau pan fydd eu mudandod dethol wedi'i sbarduno.

Bydd mudandod dethol fel arfer dechrau yn ystod plentyndod cynnar ond gall barhau yn pan fydd rhywun yn oedolyn. Gall llawer o blant oresgyn mudandod dethol pan fydd rhieni a staff addysg yn cydweithio er mwyn mynd i'r afael â hyn. Bydd yn haws goresgyn mudandod dethol pan fydd plant yn ifanc iawn.

Mae'r wybodaeth ar y dudalen we hon ar gyfer rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys ymarferwyr meithrin, athrawon, Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, a chynorthwywyr addysgu. Oni nodir yn wahanol, bwriedir i'r wybodaeth fod yn berthnasol i blant o bob oedran.

 

Beth sydd ar gael o ran mudandod dethol yng Ngwent (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)?