Mae podiatryddion yn weithwyr proffesiynol cofrestredig sy'n asesu, yn diagnosio ac yn trin cyflyrau'r traed a'r aelodau isaf.
Mae podiatryddion yn trin nifer o gyflyrau gan gynnwys cyflyrau sy'n effeithio ar esgyrn, cymalau, meinwe meddal a chyflenwad y gwaed. Maent yn gweithio i atal problemau traed rhag digwydd, cywiro anffurfiad, cadw pobl yn symudol ac yn actif, lleddfu poen a thrin heintiau.
Mae podiatryddion yn defnyddio dull holistaidd o ofalu. Mae hyn yn golygu y byddant yn siarad â chi am unrhyw broblemau corfforol a allai fod gennych a'ch lles emosiynol, seicolegol a chymdeithasol.
Mae podiatrydd yn deitl gwarchodedig yn y DU. Mae hyn yn golygu mai dim ond pobl sydd wedi cwblhau hyfforddiant penodol (gradd) ac wedi cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal all alw eu hunain yn bodiatrydd. Maent yn weithwyr proffesiynol awtonomaidd. Mae hyn yn golygu bod podiatryddion yn gwneud eu diagnosisau clinigol eu hunain a'u dewisiadau triniaeth priodol.
Dim ond Gweithiwr Proffesiynol Gofal Iechyd all wneud atgyfeiriad i Bodiatreg oni bai bod eich problem Podiatreg yn broblem Gyhyrysgerbydol. Os ydyw, gallwch lenwi ffurflen cais am gymorth drwy ddilyn y ddolen hon. Gwent yn Symud yn Well
Mae'r gwasanaeth Orthoteg yn darparu asesiadau a thriniaethau gan gynnwys gosod dyfeisiau orthoteg; dyfais allanol a fydd yn rhoi llwyth er mwyn dylanwadu, addasu neu reoli swyddogaethau cyhyrysgerbydol y corff dynol.
Gellir defnyddio dyfeisiau o'r fath mewn ystod eang o gymwysiadau gan gynnwys problemau sy'n gysylltiedig â rheoli'r traed, aelodau isaf, aelodau uchaf a’r asgwrn cefn. Bydd nod triniaeth o'r fath yn cael ei hasesu a'i chytuno ar y cyd â'r Orthotydd a'r claf, fodd bynnag, mae nodau cyffredin triniaeth yn cynnwys:
Rôl yr Orthotydd asesu er mwyn nodi pa broblemau/risg y mae’r claf yn eu profi, nodi a oes angen 'orthotig', asesu ffisioleg person a datblygu a rhagnodi cynllun triniaeth yn ôl yr angen, a all gynnwys darparu orthosis. Bydd yr orthotydd yn cydweithio â'r claf i gytuno ar y nodau ar gyfer triniaeth. Lle mae darpariaeth orthotig wedi'i chyflwyno, efallai y bydd angen trefnu adolygiad, neu byddwch yn cael eich cynghorir i geisio cael mynediad unwaith eto at y gwasanaeth ar sail 'angen'.
Atgyfeiriad at Orthoteg gan Weithiwr Proffesiynol Gofal Iechyd yn Unig