Neidio i'r prif gynnwy

Clust, Trwyn a Gwddf (ENT)

 

Croeso i'r Gwasanaeth ENT!

Mae'r Gwasanaeth ENT yn rhan o'r Is-adran Llawfeddygaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy'n rheoli gofal iechyd eilaidd ar gyfer De-ddwyrain Cymru, gan gwmpasu bwrdeistrefi lleol Casnewydd, Torfaen, Caerffili, Sir Fynwy, De Powys a Blaenau Gwent. Rydym yn gwasanaethu poblogaeth o tua 670,000 sy'n byw yn yr ardaloedd hyn. Ar hyn o bryd mae tua 12,000 o gleifion ar y rhestr aros cleifion allanol newydd a dros 1,700 o gleifion yn aros ar y rhestr aros llawdriniaeth/triniaeth.

 

 

 

 


Cludiant Ysbyty (Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng)

Os oes angen cludiant arnoch, gallwch drefnu hyn drwy ffonio: 0300 123 2303. Sylwch fod angen trefnu cludiant cyn gynted â phosibl a bod angen lleiafswm o rybudd 48 awr cyn eich apwyntiad / mynediad.

Gweler y dudalen we am ragor o wybodaeth

Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)