Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Cofrestru

Unwaith y bydd achos y farwolaeth wedi'i gytuno, bydd y meddyg yn gallu cwblhau'r dystysgrif farwolaeth. Yna gellir ei hanfon at yr Archwilydd Meddygol. Mae’n bosib y byddant yn cysylltu â chi i drafod achos y farwolaeth.  Pan fydd hyn wedi digwydd, bydd yr Archwilydd Meddygol yn anfon y dystysgrif farwolaeth i swyddfa'r Cofrestrydd a byddant yn eich ffonio i drefnu apwyntiad i gofrestru marwolaeth eich perthynas.

Unwaith y bydd y farwolaeth wedi'i chofrestru, bydd y Gwasanaeth Cofrestryddion yn rhoi 'ffurflen werdd' i chi (tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgi) y byddwch wedyn yn ei throsglwyddo i'r cyfarwyddwr angladdau yr ydych wedi’i ddewis. Gall y trefnydd angladdau ddod i'r ysbyty a throsglwyddo'ch perthynas i'w gofal.

 

Crwner

Gwasanaeth Crwner Gwent | Cyngor Dinas Casnewydd

 

Yn ystod yr amser y mae eich perthynas yn gorffwys gyda ni mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth ar y rhifau uchod i ddweud hwyl fawr i'ch perthynas petaech yn dymuno gwneud hyn.