Mae dillad cywasgu’n ran bwysig o’r ffordd yr ydych yn rheoli Lymffoedema. Bydd y Nyrs Lymffoedema yn asesu pob claf fesul un, a bydd y math cywir o ddillad yn cael eu dewis yn ddibynnol ar yr angen clinigol. Bydd y nyrs yn rhoi presgripsiwn i chi ar gyfer y dillad cywasgu ac os byddant ar gael byddant yn cael ei rhoi amdanoch yn ystod yr apwyntiad. Os bydd angen i ni archebu eich dillad, byddwn yn trefnu i chi gasglu’r rhain yn un o’n clinigau. Efallai y bydd y Nyrs yn gofyn am apwyntiad pellach er mwyn ffitio eich dillad, os bydd hyn yn digwydd bydd apwyntiad yn cael ei drefnu i chi yn y clinig. Byddwch yn cael 2 set o ddillad, mae hyn yn golygu y bydd gennych un set i’w gwisgo a set arall i’w golchi. Fe ddylai’r dillad bara rhwng 6-9 mis.
Gallwch ail-archebu dillad drwy gysylltu â ni ar e-bost y clinig ABB.lymphoedemaorders@wales.nhs.uk neu drwy ffonio’r adran: 01633 238464 a dewis Opsiwn 1 Os nad ydym ar gael bydd un o’r tîm yn eich ffonio’n ôl
Taflenni ac Adnoddau Cleifion
Rhwydwaith Lymffoeddema Cymru Mae taflenni ar gael i'w gweld neu eu lawrlwytho ar ffurf PDF gan ddefnyddio'r dolenni isod: Taflenni - Rhwydwaith Lymffoeddema Cymru (GIG.cymru)
Lymffoedema ar ôl Triniaeth Canser y Fron
Gall triniaeth canser y fron achosi croniad o hylif lymff. Darganfyddwch sut y gallwch leihau'ch risg o'i gael a sut i'w reoli. Lymffoedema ar ôl Triniaeth Canser y Fron
Adnoddau Gofal y Fron
♥ Canolfan Maggie's Felindre
Add Link - Maggie's Cardiff | Maggie's (maggies.org)
♥ Breast Cancer Now