Neidio i'r prif gynnwy

Hunan-reoli

Mae hunan-reoli â chymorth yn golygu cynyddu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd gan unigolyn wrth reoli ei iechyd ei hun. Mae hyn yn hanfodol wrth reoli cyflyrau tymor hir.  Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau'r effaith y mae'n ei gael arnoch, mae hyn yn cynnwys gwneud ymarfer corff yn rheolaidd - symud yn rheolaidd, gofalu am eich croen, bwyta deiet cytbwys ac iach i helpu i reoli eich symptomau a'r effaith y maent yn eu cael ar ansawdd eich bywyd.