Mae’r Gwasanaeth Poen ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi bod yn rhedeg ers dros 25 mlynedd. Ers pandemig Covid, mae’r ffordd y mae’r Gwasanaeth Poen yn rhedeg wedi newid. Mae'r Tîm Poen Acíwt yn cael ei arwain gan Nyrs gyda chefnogaeth Anesthetyddion Ymgynghorol sydd â diddordeb arbennig mewn poen. Maent yn yr ysbyty ac yn adolygu cleifion yn ddyddiol.
Mae’r Tîm Poen Cronig yn cael ei arwain gan Feddyg Ymgynghorol gyda dull tîm amlddisgyblaethol (MDT), gan gynnwys Arbenigwyr Nyrsio Clinigol (CNS), Ffisiotherapydd a Seicolegydd Clinigol. Mae'r CNSs poen cronig yn adolygu cleifion mewnol yn ogystal â rhedeg clinigau cleifion allanol.
Mae'r Gwasanaeth Poen yn gweithio'n agos gyda holl aelodau'r tîm amlddisgyblaethol yn yr ysbyty a'r gymuned, i ddarparu gofal cyfannol a rheoli poen unigolyn.