Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr a wneir gan wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i wella’r gwasanaethau a ddarperir gan staff cyflogedig, gyda’r nod o wella’r profiad i gleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael eu trin yn gyson a chyda pharch ar draws y sefydliad, er mwyn sicrhau bod y profiad gwirfoddoli yn un cadarnhaol.
Mae Fframwaith Gwirfoddoli ABUHB yn ein helpu i wneud yn siŵr bod gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi, eu cefnogi a’u bod yn gallu defnyddio eu sgiliau fel eu bod nhw a’r bobl y mae gwirfoddolwyr yn eu cefnogi yn cael profiad da.
Mae ein gwirfoddolwyr presennol yn chwarae rhan allweddol yn y gwasanaethau rydym yn eu darparu, yn cefnogi pobl yn yr ysbyty ac yn eu cartrefi eu hunain, ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Os oes gennych amser i'w sbario ac yr hoffech wirfoddoli, gallwn eich cefnogi gyda rôl wirfoddol sy'n addas i chi.
Os hoffech wybod mwy am ein cyfleoedd gwirfoddoli, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o'r tîm naill ai drwy ffonio 01495 768645 neu e- bostio ABB.Ffrindimi@wales.nhs.uk .