Mae Mesur Canlyniad a Adroddir gan Gleifion neu 'PROM' yn asesiad neu restr o gwestiynau sydd wedi'u cynllunio a'u dewis yn benodol ar gyfer y cyflwr iechyd y cawsoch ddiagnosis ohono.
Mae'r atebion a roddwch i ni yn helpu eich tîm meddygol o nyrsys a meddygon i gael darlun o'ch iechyd presennol. Caiff yr atebion eu hadolygu gan eich tîm gofal iechyd, sy'n golygu y gellir canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i chi yn ystod yr amser byddwch yn siarad â hwy. Mewn rhai achosion, wrth gwblhau’r asesiad cyn apwyntiadau, gall olygu y gallwn gynnig apwyntiad arall i chi yn hytrach nag apwyntiad wyneb yn wyneb sy’n arbed taith i’r ysbyty i chi.
Mae'r cwestiynau'n benodol i gyflwr, wedi'u dewis gan arbenigwyr blaenllaw, yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid, ac yn aml yn cael eu dilysu'n rhyngwladol.
Os hoffech wybod mwy am sut y defnyddir PROMS ar gyfer eich cyflwr, gofynnwch i'ch tîm gofal iechyd neu e-bostiwch ABB.ValueTeam@wales.nhs.uk .