Mae unigolion sydd mewn perygl mawr o fynd yn ddifrifol wael oherwydd Covid-19 yn dal yn gymwys i gael profion llif unffordd Covid-19 a thriniaethau gwrthfeirysol Covid-19 am ddim.
Er hynny, o 1 Chwefror, ni fydd y pyrth gov.uk sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan unigolion yng Nghymru i archebu profion LFD ac adrodd ar ganlyniadau ar gael mwyach.
Unigolion cymwys yn y gymuned
O 1 Chwefror, ni fydd unigolion cymwys yn y gymuned bellach yn gallu archebu profion llif unffordd ar-lein drwy'r porth profion llif unffordd Gov.uk archebu. Yn lle hynny, o 1 Chwefror, gellir archebu a chasglu profion LFD o fferyllfeydd sy'n cymryd rhan. I ddod o hyd i'r fferyllfa agosaf i chi, ewch i Archebu Brofion LFD.
Adrodd ar Ganlyniadau Prawf LFD
Mae tudalen adrodd Gov.uk bellach wedi cau. I adrodd canlyniadau profion, defnyddiwch y porth hunan-atgyfeirio ar-lein nawr neu ar gyfer pobl na allant gael mynediad i'r porth ar-lein, ffoniwch GIG 111.
Cyrchu profion llif unffordd tra'n dangos symptomau COVID-19
Dylai unigolion cymwys geisio cael profion llif unffordd yn barod gartref rhag ofn iddynt dal COVID-19. Mae hyn er mwyn lleihau'r angen i adael cartref i gasglu profion llif unffordd tra'n sâl, a allai fentro rhoi'r firws i bobl eraill.
Os nad oes gan unigolion cymwys profion llif unffordd gartref a bod ganddynt symptomau COVID-19, gallent ystyried y canlynol i leihau'r risg i eraill:
Gwasanaeth a Thriniaeth Gwrthfeirysol
I gael gwybod sut i gael mynediad at driniaeth drwy'r Gwasanaethau Gwrthfeirysol, ewch i - Gwasanaethau Gwrthfeirysol ledled Cymru - Gwybodaeth i'r Cyhoedd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)