Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i'r Adran Wroleg!

Mae'r Gwasanaeth Wroleg yn rhan o'r Adran Lawfeddygaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy'n rheoli gofal iechyd eilaidd ar gyfer De-ddwyrain Cymru, gan gynnwys bwrdeistrefi lleol Casnewydd, Torfaen, Caerffili, Sir Fynwy a Blaenau Gwent.

Wroleg yw'r maes meddygaeth sy'n canolbwyntio ar y llwybr wrinol a'r organau cenhedlu gwrywaidd.

Mae'r llwybr wrinol yn cynnwys y canlynol:

  • Arennau
  • Pledren
  • Wreters
  • Wrethra

Mae ein tîm profiadol yn gwneud diagnosis ac yn trin ystod eang o gyflyrau Wroleg yr arennau, yr wreterau, y bledren wrinol, yr wrethra ac organau atgenhedlu gwrywaidd, (ceilliau, epididymis, vas deferens, fesiglau semenol, y prostad a’r pidyn)

Cyflyrau Wroleg rydyn ni'n eu trin:

  • Lithotripsi
  • Cerrig arennau
  • Cemotherapi'r bledren
  • Treial heb gathetr a chathetreiddio cymhleth
  • Canser yr arennau, y bledren, y prostad, y ceilliau a'r pidyn
  • Iechyd rhywiol dynion

Rydym yn adran fawr sy'n cynnwys dau brif faes, yr Uned Ymchwilio Wroleg a'r Uned Achosion Dydd Wroleg.

 

Cymorth Pellach

Mae elusennau cenedlaethol yn darparu gwybodaeth a chymorth.