Neidio i'r prif gynnwy

Podiatreg ac Orthoteg

Gwybodaeth bwysig am yr adran Podiatreg ac Orthoteg yn ystod pandemig COVID-19.

 

Peidiwch â mynychu eich apwyntiad os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref symptomau Coronafeirws.

 

Mae'r ffordd rydyn ni'n darparu gofal yn yr adran Podiatreg ac Orthoteg yn newid oherwydd Covid-19. Mae pob apwyntiad nad yw'n fater brys wedi'i ganslo, ond bydd mynediad ar frys yn parhau.

Mae'r tîm Podiatreg ac Orthoteg yn asesu cleifion fesul achos. Bydd y tîm archebu/ amserlennu yn cysylltu â chi os yw'r clinigwr o'r farn ei bod yn angenrheidiol i chi gael eich gweld. Mae'r holl wasanaethau 'galw heibio' wedi dod i ben nes bydd rhybudd pellach.