Aelod Annibynnol (Cymuned)
Aelod Annibynnol (Cymuned)
Mae Neil wedi byw a gweithio yn Ne Cymru ers 1987. Yn y lle cyntaf, dilynodd yrfa mewn marchnata mewn banciau yn Standard Chartered, Woolwich a Barclays. Cyfnod nesaf ei yrfa oedd fel cyd-sylfaenydd tri chwmni newydd yn y gwasanaethau ariannol yng Nghymru (Firstplus Financial Group PLC, Picture Financial, Pure Options). Tyfodd Firstplus o’i sefydlu i gynhyrchu elw cyn treth o dros £100m o fewn 5 mlynedd, gan greu dros 350 o swyddi yn Ne Cymru.
Mae Neil wedi gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd fel darlithydd gwadd ar gyfer yr MBA llawn amser rhyngwladol, gan arwain y modiwlau ar gyfer Strategaeth Gorfforaethol, Marchnata ac Entrepreneuriaeth.
Fel rhan o Gynghorwyr Ystafell y Bwrdd, mae wedi cynghori a chefnogi busnesau amrywiol yn y DU a thramor. Yn aml yn creu a chynghori ar brosiectau buddsoddi, mae wedi codi dros £40m o fuddsoddiad ar gyfer busnesau yn eu cyfnod cynnar.
Mae gan Neil brofiad o arwain rhaglenni gwella ansawdd parhaus. Mae ei waith wedi’i gydnabod gan iddo ennill Gwobr Ansawdd Cymru deirgwaith, (wedi’i fesur yn erbyn Model Rhagoriaeth EFQM) a’r Wobr Ansawdd Ewropeaidd.
Mae gan Neil brofiad sylweddol fel cyfarwyddwr anweithredol ac ar hyn o bryd mae’n gyfarwyddwr anweithredol i IEC plc, a lansiwyd yn llwyddiannus yn Nghyfnewidfa Stoc Aquis ym mis Rhagfyr 2023. Yn IEC, mae'n cadeirio'r Pwyllgorau Risg a Chydnabyddiaeth Ariannol.
Fel gwirfoddolwr, mae Neil wedi gweithio’n gyson i wella cymunedau yn Ne Cymru. Sefydlodd a chadeiriodd Grŵp Cymunedol Draethen am 7 mlynedd ac mae wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Cymuned yng Nghyngor Cymuned Draethen, Waterloo a Rhydri. Mae hefyd wedi gweithio i gefnogi prosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r UE i gefnogi cyfleoedd cyflogaeth i fewnfudwyr i Gymru.
Mae diddordebau Neil yn cynnwys hanes milwrol ac mae'n chwaraewr gitâr cymedrol iawn yn ôl ei gyd-aelodau yn y band.