Neidio i'r prif gynnwy
Robert Holcombe

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Chaffael

Amdanaf i

Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Chaffael

Dechreuodd Rob ei yrfa yn y GIG ym 1990 gydag Awdurdod Iechyd De Morgannwg, ac mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn Ne Cymru. Mae wedi rheoli portffolios ariannol uwch ar draws iechyd, amddiffyn a’r sector preifat, gan gynnwys rôl Cyfarwyddwr Cyllid ar gyfer ysbyty acíwt yn Saudi Arabia ac roedd yn Gyfarwyddwr Cyllid Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent.

Mae'n gymrawd o Gymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig ac mae ganddo radd Meistr mewn Cyfrifeg Rheolaeth. Mae Rob wedi mynychu Ysgol Fusnes Harvard i astudio Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, wedi ymgymryd ag ymweliadau ymchwil gofal iechyd rhyngwladol ac ef yw cynrychiolydd Cymru ar bwyllgor Polisi ac Ymchwil Cenedlaethol y Gymdeithas Rheolaeth Ariannol Iechyd.

Mae Rob yn eiriolwr brwd dros wella canlyniadau cleifion drwy’r dull gofal seiliedig ar werth a datblygu’r tîm cyllid i ddeall busnes iechyd y tu hwnt i’r cyfriflyfr.