Neidio i'r prif gynnwy
Philip Robson

Cynghorydd Arbennig i'r Bwrdd

Amdanaf i

Cynghorydd Arbennig i'r Bwrdd

Penodwyd Phil yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn 2010. Rhwng Ebrill 2016 a Mai 2018 ef oedd yr Is-gadeirydd. Fe'i penodwyd yn ddiweddar i swydd Cynghorydd Arbennig i'r Bwrdd.

 

Yn dilyn gyrfa gynnar yn y Dwydiant Dur, ymunodd Philip â chyn Gyngor Sir Gwent ym 1983 a threuliodd y 27 mlynedd nesaf yn y Llywodraeth Leol. Roedd ganddo amrywiaeth o rolau ymarferol fel Gweithiwr Cymdeithasol ac Uwch Reolwr sy'n arbenigo mewn Amddiffyn Plant.


Daeth yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys yn 2001 a phenodwyd ef yn Gyfarwyddwr Gweithredol Pobl a Lles yn 2005. Roedd y swydd hon yn cwmpasu rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Swyddog Addysg. Ymddeolodd Philip o'i swydd gyda Powys ym mis Rhagfyr 2008 ac ers hynny mae wedi ymgymryd â nifer o benodiadau ar ran Gweinidogion Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys arwain sawl ymholiad i weithrediad Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru. Ym mis Chwefror 2010 fe'i penodwyd i'r Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru. Sefydlwyd y Comisiwn i gynghori'r Llywodraeth ar siâp a threfniadaeth Gwasanaethau Cymdeithasol yn y dyfodol. Roedd argymhellion y Comisiwn yn sylfaenol i'r Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.

 

O fewn y Bwrdd Iechyd, mae Phil wedi cadeirio sawl pwyllgor gan gynnwys Archwilio, Partneriaethau a Lles, Newid Strategol, Cyllid ac Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu. Mae gan Phil ddiddordeb arbennig mewn integreiddio gwasanaethau, ac ar hyn o bryd, mae'n cadeirio'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.