Neidio i'r prif gynnwy
Nicola Prygodzicz

Prif Weithredwr

Amdanaf i

Prif Weithredwr

Dechreuodd Nicola weithio yn y GIG ym 1991 fel Rheolwr Cyllid dan Hyfforddiant. Ers iddi gymhwyso ym 1995 fel Cyfrifydd Siartredig gyda CIPFA, mae Nicola wedi gweithio mewn nifer o rolau cyllid uwch ledled De Cymru, gan gynnwys 16 mlynedd yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Ar ôl ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn 2014, i ddechrau fel Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol, datblygodd Nicola yn gyflym i gael ei phenodi i rôl Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio, Digidol a TG yn 2015 ac yn fwy diweddar, ymgymerodd â'r rôl Ddirprwy Brif Weithredwr.

Arweiniodd Nicola y Rhaglen Ddyfodol Glinigol ar draws ardal y Bwrdd Iechyd ac agoriad Ysbyty Athrofaol y Faenor yn 2020. Mae’n angerddol am welliant parhaus gwasanaethau a sicrhau bod y claf a’r cyhoedd wrth galon ein cynllunio. Mae Nicola hefyd yn eiriolwr cryf dros ddatblygiad personol a hyfforddiant i sicrhau bod gan staff yr adnoddau a’r cymhelliant da i gyflawni’r heriau o weithio i’r GIG.

Penodwyd Nicola yn Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2022.

Yn falch o weithio a byw yng Nghymru, mae Nicola yn mwynhau treulio amser gyda'i theulu a'i ffrindiau.