Neidio i'r prif gynnwy
Prof. Helen Sweetland

Aelod Annibynnol (Prifysgol)

Amdanaf i

Aelod Annibynnol (Prifysgol)

Graddiodd Helen mewn meddygaeth o Ysgol Feddygol Prifysgol Sheffield mwy na 35 mlynedd yn ôl a bu’n gweithio yn y GIG nes iddi ymddeol o’i swydd glinigol yn 2020. Hyfforddodd fel llawfeddyg yn Sheffield, cyn symud i Gaerdydd ym 1996 fel Llawfeddyg Ymgynghorol Anrhydeddus yng Nghaerdydd a BIP y Fro / Uwch Ddarlithydd mewn Llawfeddygaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd. Gweithiodd fel Llawfeddyg Cyffredinol Ymgynghorol a Llawfeddyg y Fron. Hi oedd Arweinydd Clinigol Canolfan y Fron o 2017-2020. Mae ganddi brofiad helaeth mewn hyfforddiant meddygol ôl-raddedig ac mae wedi hyfforddi llawer o lawfeddygon sydd bellach yn gweithio yn y DU a ledled y byd.

Mae diddordebau academaidd Helen mewn addysg feddygol israddedig ac ymchwil glinigol fel technegau llawfeddygol newydd, gwneud penderfyniadau ar y cyd a geneteg canser y fron. Mae hi wedi gwasanaethu mewn sawl rôl arwain yn yr Ysgol Meddygaeth, gan gynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen MBBCh a Chyfarwyddwr Ansawdd. Ar hyn o bryd, Helen yw Cyfarwyddwr Dros Dro y Ganolfan Addysg Feddygol (CU). Mae hi wedi cael rolau allanol sy'n cynnwys: arholwr allanol ar gyfer sawl Ysgol Feddygol ac fel Cydymaith Addysg y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Yn rhinwedd y swydd honno, mae hi wedi ymweld ag ysbytai ac ysgolion meddygol eraill yn y DU i sicrhau bod addysgu a hyfforddi yn cwrdd â safonau GMC.