Aelod Annibynnol (IM) - Cymuned
Aelod Annibynnol (IM) - Cymuned
Ganed Paul yn ardal Gaerffili. Mynychodd ysgolion lleol, ac mae ganddo gysylltiadau teuluol cryf ar draws Gwent. Dros ei flynyddoedd, mae ei waith a'i gyfranogiad cymunedol wedi ymdrin ag amrywiaeth o feysydd gan gynnwys Addysg, Gofal Iechyd, y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd, Gwasanaeth yr Heddlu, y sector gwirfoddol a'r BBC. Ar ôl graddio, roedd yn athro ysgol uwchradd lle bu'n dysgu hanes a'r dyniaethau, yn ogystal â'r gyfraith, gwleidyddiaeth a chymdeithaseg i'r chweched dosbarth. Roedd hefyd yn Bennaeth Blwyddyn, Pennaeth Adran a gwasanaethodd fel athro llywodraethwr.
Yn ychwanegol at ei swydd fel Aelod Annibynol o fewn y Bwrdd Iechyd, mae Paul ar hyn o bryd yn Gadeirydd Annibynnol ar gyfer GIG Lloegr, lle mae'n cadeirio apeliadau cenedlaethol am ofal iechyd parhaus. Mae'n Ysgrifennydd Dosbarth ac yn weithiwr achos i'r Undeb Addysg Cenedlaethol ac wedi bod yn rhan o eistedd ar dribiwnlysoedd cyflogaeth yng Nghaerdydd a Birmingham. Mae ei waith gwirfoddol yn cynnwys cadeirio Bwrdd Llywodraethwyr ysgol gynradd, a gwasanaethu fel Arweinydd Llywodraethu Cenedlaethol. Mae hefyd yn gwasanaethu fel ymddiriedolwr ar gyfer dwy elusen sy'n ymwneud â chefnogi pobl ifanc.
Mae penodiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill yn cynnwys cynorthwyo gyda sefydlu a chadeirio 'Healthwatch Herefordshire'. Roedd y sefydliad newydd hwn yn gweithredu fel 'llais y claf' ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn y sir. Cyn hynny, roedd yn aelod o Fwrdd GIG Swydd Henffordd am nifer o flynyddoedd.
Mae wedi cwblhau gwaith i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, a'r Bwrdd Hyfforddi Addysg Feddygol Ôl-raddedig, lle bu'n ymwneud ag apeliadau ardystio cenedlaethol. Fe'i penodwyd a'i hyfforddi hefyd fel Arolygydd Lleyg ar gyfer Gofal Iechyd y GIG yng Nghymru ac mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Lleyg cwynion y GIG yn ymwneud â meddygon teulu ac ymgynghorwyr yn ardal Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Fe'i penodwyd yn ynad ym 1985 a gwasanaethodd fel aelod annibynnol, gan gadeirio Awdurdod Heddlu West Mercia. Bu hefyd yn arwain y Grŵp Annibynnol ar lefel genedlaethol a gwasanaethodd fel llywodraethwr yng Ngholeg Cenedlaethol yr Heddlu yn Bramshill. Roedd yn un o Ddirprwy Gadeiryddion y Fainc yn Swydd Henffordd, ac yn gadeirydd y Llys Ieuenctid. Bu'n gadeirydd Cymdeithas Ynadon Powys a Swydd Henffordd am nifer o flynyddoedd a bu hefyd yn Gadeirydd ar Fwrdd Ymwelwyr Sefydliad Carchardai a Throseddwyr Ifanc a Chanolfan Remand yng Nghaerloyw.
Helpodd Paul i sefydlu Swyddfa Cyngor ar Bopeth Ross-on-Wye, a chadeiriodd ei bwyllgor.
Yn 2006, dyfarnwyd Gradd Anrhydeddus MA iddo o Brifysgol Caerwrangon.
Yn 2008, fe'i penodwyd yn Ddirprwy Raglaw Sir Henffordd.