Oherwydd galw digynsail am Wasanaethau Rheoli Pwysau i Oedolion, rydym yn profi amseroedd aros estynedig ar hyn o bryd. Er mwyn sicrhau y gallwn barhau i fodloni anghenion cleifion sydd angen gofal brys, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i atal cyfeiriadau newydd nad ydynt yn rhai brys dros dro ar gyfer y gwasanaethau rheoli pwysau i oedolion.
Bydd y mesur dros dro hwn ar waith o ddydd Llun, 8 Medi 2025, a bydd yn ein helpu i flaenoriaethu’r rhai sydd â’r anghenion clinigol mwyaf brys.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi:
Cwestiynau Cyffredin - Gwasanaeth Rheoli Pwysau
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i oedolion yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a hoffai gael cymorth i golli pwysau. Bydd y gwasanaethau hyn yn rhoi'r wybodaeth, yr offer a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer colli pwysau yn llwyddiannus, yn gynaliadwy gyda ffocws ar hybu iechyd a lles.