Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Mamolaeth

 

Neges gan y Tîm Iechyd Meddwl Amenedigol

Mae’r Pecyn Cymorth hwn wedi’i ddatblygu gan y tîm Iechyd Meddwl Amenedigol Arbenigol i helpu merched beichiog a mamau newydd gydag offer hunangymorth i chi roi cynnig arnynt, i gynnig rhywfaint o arweiniad ac i geisio’ch helpu drwy’r cyfnod anodd hwn.

Yn yr un modd â’r holl ganllawiau ynghylch Coronafeirws (COVID-19) ar hyn o bryd, efallai y bydd y canllawiau’n newid wrth i wybodaeth ddatblygu, ond byddwn yn ceisio cadw hyn mor gyfredol â phosibl. Y canllawiau diweddaraf gan y llywodraeth yw 'aros gartref'.

Lles Emosiynol yn ac o gwmpas genedigaeth

 

Yng Ngwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gofal caredig, medrus a thosturiol i chi. Credwn yn gryf y dylai menywod allu gwneud dewisiadau cwbl wybodus ynghylch eu gofal mamolaeth, ac rydym am eich cefnogi yn y dewisiadau a wnewch.

Archwiliwch y tudalennau hyn lle gallwch weld pa wasanaethau sydd ar gael i chi yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth.