Neidio i'r prif gynnwy
Helen Cunningham

Aelod Annibynnol – Awdurdod Lleol

Amdanaf i

Aelod Annibynnol – Awdurdod Lleol

Mae gan Helen radd meistr mewn Llywodraethu Ewropeaidd a Pholisi Cyhoeddus o Brifysgol Caerdydd, a Diploma mewn Rheolaeth. Cyn cael ei hethol yn 2022, bu Helen yn gweithio ym maes polisi ac ymchwil yn y Senedd ac yn y felin drafod gwrth-dlodi Sefydliad Bevan. Mae Helen hefyd wedi gweithio yn y Comisiwn Ewropeaidd ac yn y trydydd sector ym maes datblygu cymunedol.

Mae Helen wedi bod yn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ers mis Mai 2022, yn cynrychioli ward Llanhiledd. Fel Dirprwy Arweinydd y Cyngor mae hi wedi dal dau faes portffolio, sef Cymdogaeth a'r Amgylchedd ac Oedolion a Chymunedau, yn y drefn honno.

Yn ei rôl fel cynghorydd, mae Helen yn gwasanaethu ar nifer o Fyrddau, gan gynnwys bwrdd Data Cymru, Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent a bwrdd Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Gwent (GAVO). Mae hi hefyd yn llywodraethwr a benodwyd gan yr Awdurdod Lleol yn Ysgol Gynradd Swffryd ac Ysgol Gynradd Sant Illtyd ac yn sylwebydd ar fwrdd Tai Calon. Rhwng 2013 a 2017, gwasanaethodd Helen hefyd fel Cynghorydd ar Gyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd.