Cyfarwyddwr Digidol
Cyfarwyddwr Digidol
Graddiodd Paul o Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan ym 1995 gyda gradd mewn Gwybodeg ac ymunodd ag Ymddiriedolaeth GIG Caerfyrddin a’r Cylch yn syth wedi hynny ac mae wedi treulio ei holl yrfa hyd yma yn gweithio mewn amrywiaeth o rolau Digidol yn GIG Cymru.
Rôl gyntaf Paul oedd cynnal hyfforddiant i amrywiaeth eang o staff ar systemau digidol ac yna symudodd i rôl datblygu darparu Gwybodaeth i ystod o randdeiliaid a chreu rhaglenni pwrpasol i gefnogi ansawdd data ac integreiddio gan sicrhau bod data’n cael ei rannu rhwng systemau clinigol. Helpodd Paul i arwain yr ymateb i’r Flwyddyn 2000 a bu’n ymwneud â’r fersiynau cynnar o’r System Gweinyddu Cleifion leol sydd bellach yn cael ei defnyddio ar draws holl sefydliadau GIG Cymru.
Wedi’i benodi’n Bennaeth TGCh ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a oedd newydd ei ffurfio yn 2008, arweiniodd Paul y gwaith o gydgrynhoi technegol ei seilwaith TGCh a chefnogodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru gyda’r strategaeth ddigidol genedlaethol ar gyfer GIG Cymru gan gadeirio sawl grŵp cenedlaethol a chefnogi sawl caffaeliad cenedlaethol.
Fel Pennaeth TGCh arweiniodd Paul sawl elfen ddigidol mewn ymateb i bandemig COVID-19 gan gynnwys sicrhau bod yr ysbytai maes yn weithredol a defnyddio Microsoft Office 365.
Wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Digidol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ym mis Mehefin 2023 mae Paul yn edrych ymlaen at sicrhau bod y sefydliad yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol i gefnogi a thrawsnewid darpariaeth gofal cleifion ar draws rhanbarth Gwent.