Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw enw gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan. Sefydlwyd y Bwrdd Iechyd ar 1 Hydref 2009 ac mae'n cynnwys ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a De Powys.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi dros 14,000 o staff, ac y mae dwy ran o dair ohonynt yn ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion. Mae mwy na 250 o ymgynghorwyr mewn cyfanswm o dros 1000 o feddygon ysbyty a meddyg teulu, 6,000 o nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol a gweithwyr cymunedol.
Arweinir y Bwrdd Iechyd gan y Cadeirydd, Cyfarwyddwyr Anweithredol, y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr Gweithredol eraill. Cefnogir y Bwrdd gan yr Uwch Dîm Rheoli.