Rydym yn hynod o falch i gyhoeddi ein bod bellach wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig o weinyddu hanner miliwn o frechiadau (cyfuniad o ddosau cyntaf ac ail)!
Rydym mor falch o'n holl dimau brechu sy'n gweithio'n hynod o galed i roi brechlynnau mor ddiogel a chyn gynted â phosibl ar draws ardal ein Bwrdd Iechyd.
Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus wrth i ni weithio trwy ein rhestrau blaenoriaeth.