Neidio i'r prif gynnwy

Adran Achosion Brys Dan Bwysau Eithafol

Ar hyn o bryd rydym yn gweld niferoedd uchel o feirysau’r gaeaf yn lledaenu ledled Gwent ac mae ein gwasanaethau wedi bod dan bwysau difrifol drwy’r penwythnos.

Y bore yma (Dydd Llun), roedd mwy na 100 o gleifion eisoes yn aros yn ein Hadran Achosion Brys erbyn 10:00am.

Byddem yn gofyn i bobl leol ymweld â’n Hadran Achosion Brys dim ond os yw’n gwbl angenrheidiol. Bydd angen i unrhyw un nad oes ganddo gyflwr sy'n bygwth bywyd fod yn barod i wynebu arhosiad eithriadol o hir.

Mae gennym lawer o wasanaethau ar gael i helpu pobl, gan gynnwys Fferyllfeydd lleol a all asesu a thrin nifer o anhwylderau cyffredin a chynnig cyngor os oes angen gweld cleifion yn rhywle arall. Rydym hefyd yn gofyn i bobl ddefnyddio’r gwiriwr symptomau 111 ar-lein 111.wales.nhs.uk os nad ydynt yn siŵr ble i fynd.

Hoffem ddiolch i bobl am eu hamynedd ar yr adeg hon a hoffem hefyd ddiolch i'n staff anhygoel sy'n parhau i weithio'n anhygoel o galed i gadw ein gwasanaethau i redeg ac i ofalu am gleifion cyn gynted â phosibl.