Neidio i'r prif gynnwy

Brechiad COVID-19 - Cyhoeddiad JCVI ar frechu Plant a Phobl Ifanc

Dydd Mercher 4 Awst 2021

 

Yn dilyn cyhoeddiad heddiw ac argymhellion gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch imiwneiddio’r rheiny rhwng 16 ac 17 oed, hoffem sicrhau ein trigolion y byddwn yn cysylltu â phob un sy’n gymwys am frechlyn dros yr wythnosau nesaf er mwyn cynnig apwyntiad. Gofynnwn i chi beidio â chysylltu â ni i ofyn am apwyntiad, ond rydym yn gofyn i chi sicrhau bod eich manylion wedi’u diweddaru â’ch Practis Meddyg Teulu. Ein nod yw hysbysu unigolion o leiaf un wythnos cyn eu hapwyntiad a bydd llythyrau’n cael eu hanfon i’ch cyfeiriad cartref cofrestredig sydd ar system eich Meddyg Teulu.

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Datganiad Ysgrifenedig: Brechu rhag COVID-19 - cyhoeddiad y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu am Frechu Plant a Phobl Ifanc (4 Awst 2021) | LLYW.CYMRU