Yn dilyn cyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth Cymru ynghylch:
Hoffem sicrhau ein preswylwyr y byddwn yn cysylltu â phawb sy'n gymwys i gael y brechiadau hyn i gynnig apwyntiad iddynt dros yr wythnosau nesaf. Gofynnwn i chi beidio â chysylltu â ni i ofyn am apwyntiad, ond gofynnwn ichi sicrhau bod eich manylion a gedwir gyda'ch Meddygfa Teulu yn gyfredol. Byddwn yn anelu at gysylltu â phob unigolyn o leiaf wythnos cyn eu hapwyntiad, ac anfonir llythyrau i'r cyfeiriad cartref cofrestredig a gedwir gyda'ch meddyg teulu.
I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn dos cyntaf ar gyfer plant 12-15 oed, ewch i: Datganiad Ysgrifenedig: Brechiadau COVID-19 – Cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a’r Prif Swyddog Meddygol ar frechu plant a phobl ifanc 12-15 oed
I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Atgyfnerthu Hydref Covid-19, ewch i: Datganiad Ysgrifenedig: Brechu rhag COVID-19 – Cyhoeddiad y JCVI am raglen pigiadau atgyfnerthu yn yr hydref