Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Safleoedd Brechu Torfol yng Ngwent yn cynnig clinigau galw heibio ar gyfer brechiadau Atgyfnerthu Covid-19 yr Hydref, Ffliw Cyffredinol a Ffliw Trwynol Plant wrth i wasanaethau brofi cynnydd sylweddol mewn achosion ledled y rhanbarth

Mae'r Ffliw a Covid-19 yn lledaenu o gwmpas Gwent, yn enwedig mewn plant ac ar lefelau na welwyd o'r blaen - dyma'r tro cyntaf inni wynebu nifer uchel o achosion o'r Ffliw a Covid-19.

 Mae'n hynod bwysig eich bod yn cael eich brechu a'ch bod yn diogelu eich hun a'ch anwyliaid - mae ein gwasanaethau'n gweld pobl sy'n ddifrifol sâl gyda'r Ffliw a Covid-19, a chael eich brechu yw eich amddiffyniad gorau wrth fynd i'r afael â'r afiechydon.

 Wrth adeiladu ar lwyddiant y clinigau galw heibio yn ein Safleoedd Brechu Torfol cyn y Nadolig, rydym bellach yn agor drysau ein holl safleoedd Brechu Torfol ar gyfer brechiadau Atgyfnerthu Covid-19 yr Hydref a'r Ffliw ar gyfer apwyntiadau galw heibio o heddiw, dydd Mercher 4 Ionawr 2023 rhwng 10am - 4:30pm. Gall plant rhwng 2-16 oed bellach alw heibio'n safleoedd Brechu Torfol a chael eu brechu gyda chwistrell drwynol, nid pigiad.

 Bydd y cynnig galw heibio ar gyfer y ddau frechiad ar gael yn ystod dyddiau ac amseroedd agor arferol y Ganolfan Frechu Dorfol sef dydd Llun-dydd Sadwrn 10am-4:30pm.

Mae rhestr o'n Safleoedd Brechu Torfol ar gael drwy ddilyn y ddolen hon: Cael eich Brechu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)

 Ydych chi'n gymwys ar gyfer brechiad y Ffliw neu frechiad Atgyfnerthu Covid-19 yr Hydref? Gwiriwch isod:

 

Y Ffliw

Mae POB plentyn rhwng 2-16 yn gymwys am frechiad trwynol y ffliw.

Gwiriwch a ydych yn gymwys am y brechiad pigiad ar gyfer pobl 17 oed a hŷn yma: Cymhwystra ar gyfer y brechlyn - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

 

Brechiad Atgyfnerthu Covid-19 yr Hydref

I fod yn gymwys am Frechiad Atgyfnerthu COVID-19 yr Hydref, rhaid ichi fodloni'r canlynol:

  • Bod yn 50 mlwydd oed neu hŷn, neu
  • Rhwng 12 – 49 oed ac mewn grŵp risg clinigol

Rhaid ichi hefyd fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Nid ydych wedi cael brechiad COVID-19 ers 1 Medi 2022
  • Nid ydych wedi cael canlyniad COVID-19 positif (mae hyn yn cynnwys profion PCR a llif unffordd) yn ystod y 28 diwrnod diwethaf