Neidio i'r prif gynnwy

Bywyd newydd i hen gymhorthion symudedd

Mae baglau a fframiau zimmer yn cael bywyd newydd, diolch i’r tîm yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ Cyngor Torfaen, sy’n cael ei rhedeg gan bartner gwastraff ac ailgylchu, FCC Environment.

Mae cymhorthion symudedd nad ydynt yn cael eu defnyddio ac sy’n dod i’r safle i gael eu hailgylchu, nawr yn cael eu hachub a’u hanfon i ffwrdd i gael eu diheintio a’u trwsio er mwyn gallu eu hailddefnyddio ledled de Cymru.

Lansiwyd y cynllun y mis diwethaf a hyd yma mae wedi achub mwy nag 20 pâr o faglau a 3 ffrâm zimmer o’r sgipiau.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol ar gyfer yr Amgylchedd: “Mae hwn yn gynllun arloesol ac mae’n dangos gwaith partneriaeth ar ei orau.

“Mae llawer o bobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty gydag offer i’w helpu i wella, ond pan nad oes angen yr offer hwnnw bellach, yn aml iawn, mae’n cael ei daflu. Mae’r gwasanaeth hwn yn achub eitemau y gellir eu hailddefnyddio, yn arbed arian ac yn cynyddu nifer yr eitemau sydd ar gael i’r trigolion hynny sydd mewn angen.”

Gall trigolion gydag offer iechyd nad ydynt bellach ei angen nawr fynd ag o i’r ganolfan ailgylchu, yn y Dafarn Newydd, fel rhan o’r gwasanaeth newydd.

Mae adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Torfaen hefyd yn rhedeg cynllun casglu ar gyfer yr offer hwn ar gyfer trigolion sy’n cael anhawster mynd i’r ganolfan ailgylchu.

Anfonir pob eitem i Cefndy-Medequip, yng Nghasnewydd, i’w glanhau a’i thrwsio i safonau rheoleiddiol. Yna maent yn cael eu hailddosbarthu ledled Gwent.

Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Thai: “Mae’r eitemau hyn yn gallu bod yn brin, ac felly mae’r cynllun hwn yn sicrhau nad ydynt yn cael eu gwastraffu a bod mwy o bobl yn gallu elwa ohonynt.”

I drefnu casgliad offer nad yw’n cael ei ddefnyddio, ffoniwch 01633 987409 neu ewch â nhw i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ a’u rhoi i aelod o staff.