Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Drefnu Brechiadau Torfol yn parhau i brofi problemau gyda'u llinell ffôn

Mae'r Ganolfan Drefnu Apwyntiadau Brechu Torfol yn parhau i brofi problemau gyda'u llinell ffôn, sydd yn achosi alwyr i brofi arosiadau eithriadol hir wrth aros i siarad â thriniwr galwadau. Rydym yn parhau i ymchwilio fewn i'r mater ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y mae hyn wedi'i achosi.

Os hoffech adael neges, dewiswch opsiwn 1 gan nodi eich enw, dyddiad geni, rhif ffôn a neges fer fel y gallwn drefnu i rywun eich ffonio'n ôl. Os ydych eisoes wedi gadael neges gyda'r wybodaeth ofynnol, hoffwn eich sicrhau y byddwn yn eich galw cyn gynted â phosibl.

Diolch yn fawr am eich amynedd a'ch dealltwriaeth ar yr adeg hwn.