Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Ymchwil Glinigol Newydd yn Agor yng Ngwent yn Dilyn Llwyddiant Brechlyn COVID-19

Dydd Iau 8 Medi 2022

Cafodd Uned Ymchwil Glinigol newydd sbon ei hagor ar Ddydd Mercher 7 Medi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gan nodi cyfraniad rhyngwladol Cymru i'r astudiaethau Iechyd Cyhoeddus Covid-19 brys a olygodd darganfod y brechlyn Astra Zeneca sy'n arbed bywydau.

Bydd y cyfleuster, sydd wedi ei leoli yn Ysbyty Brenhinol Gwent, yn darparu ymchwil glinigol hanfodol gyda thîm o arbenigwyr o dîm Ymchwil a Datblygu'r Bwrdd Iechyd. Nod y data hanfodol a ganfyddir gan yr astudiaethau yn y ganolfan yw dod yn arfer o ddydd i ddydd o fewn prosesau'r GIG i'w cynorthwyo i ddod o hyd i'r triniaethau gorau ar gyfer pobl Gwent, Cymru a thu hwnt.  Gall y ganolfan gyfrannu i dreialon cam 2 a 3 cenedlaethol a byd-eang, gan ddarparu cyfle i bobl De Cymru gael mynediad at driniaethau newydd o’r radd flaenaf ar gyfer ystod o salwch.

Mae rhan o sefydlu'r uned yn dod o greu'r brechlyn COVID-19 arloesol a noddwyd gan Brifysgol Rhydychen, a oedd yn ymdrech tîm rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd; gan roi Cymru ar y map yn y frwydr fyd-eang yn erbyn y pandemig.

Agorodd Prif Weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Nicola Prygodzicz, y ganolfan ac roedd wrth ei bodd yn cael hyn fel ei hymgysylltiad cyhoeddus cyntaf.

Dywedodd: "Mae hyn yn dangos cyfraniad anhygoel ein Bwrdd Iechyd i ymchwil Covid-19 ac rwyf mor falch bod gwaith cyn bwysiced yn cael ei gynnal yn y cyfleuster o'r radd flaenaf hwn yng Ngwent. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r partneriaid sydd wedi gweithio gyda ni ar hyd y ffordd ac rwy'n falch o fod wedi cael nifer ohonynt yn mynychu'r digwyddiad agor swyddogol hwn." 

Dywedodd Dr Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd a Phartneriaethau Strategol a Chadeirydd Ymchwil Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan,:

"Mae'n anhygoel gweld y gwaith sydd wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd heriol diwethaf hyn yn dod â rhywbeth cyn bwysiced a chadarnhaol â Chanolfan Ymchwil Glinigol. Rwyf mor falch o'r tîm ac yn cael fy annog gan y gwaith a'r mewnwelediadau fydd yn deillio o'r cyfleusterau hyn yn y dyfodol.  Yn y pendraw, fe fydd y gwaith hanfodol hwn yn chwarae rhan allweddol yn gwella iechyd pobl Gwent."

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

"Mae'r buddsoddiad hwn yn Ne Cymru yn caniatáu cynnydd sylweddol yng ngallu Cymru i gynnal ymchwil all newid bywyd, gan fod gennym bellach nifer o Gyfleusterau Ymchwil Clinigol dynodedig ar draws Cymru. Mae'r canolfannau hyn yn creu rhwydwaith o gyfleoedd i gyfrannu'n sylweddol i astudiaethau cenedlaethol a byd-eang, gan sicrhau ein bod yn parhau i aros yn flaengar mewn iechyd a gofal cymdeithasol."

Mae yna dros 100 o astudiaethau gweithredol yn digwydd o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar hyn o bryd, yn cynnwys ymchwilio i driniaethau ar gyfer cyflyrau anadlu, COVID-19, canser a mwy. Am ragor o wybodaeth ynghylch cofrestru ar gyfer y treialon a'r astudiaethau ymchwil cyfredol, cynghorir cleifion i drafod opsiynau ymchwil gyda'r clinigwyr sy'n eu trin.