Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Diwrnod Hawliau Iaith Gymraeg

Dydd Llun 7 Rhagfyr

Heddiw, Dydd Llun 7 Rhagfyr, rydym ni fel Bwrdd Iechyd yn cefnogi'r ymgyrch #maegenihawl Diwrnod Hawliau'r Iaith Gymraeg, lle rydym yn hyrwyddo rhai o'r gwasanaethau Cymraeg ein bod yn cynnig i'n cleifion a staff fel rhan o'u Hawliau Iaith Gymraeg.

Gall cyfathrebu â chlaf yn ei ddewis iaith pan fydd ar ei fwyaf bregus wneud byd o wahaniaeth iddynt. I'r rhai y mae Cymraeg yn iaith gyntaf iddynt, gall cynnig triniaeth iddynt yn eu dewis iaith leihau trallod a gwella eu profiad fel claf yn fawr.

Mae gennym aelodau staff sy'n siarad Cymraeg yn gweithio mewn sawl safle ar draws ein Bwrdd Iechyd, o'n Hysbytai a Phractisau Meddygon Teulu, i'n Canolfannau Iechyd a'n Meddygfeydd Deintyddol.

Mae aelodau staff sy'n siarad Cymraeg i gyd yn hapus i ddarparu gofal cyfrwng Cymraeg i chi fel rhan o'ch #HawliauCymraeg

Dyma Nia. Mae Nia yn gweithio yn ein Canolfan Atgyfeirio ac Archebu, ac yn gallu darparu gwasanaeth Cymraeg i'n cleifion dros y ffôn.

A wyddoch chi bod gennym gyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol cyfrwng Cymraeg? Gallwch ein dilyn ar y dolenni isod:

                                  - Facebook: @BwrddIechydAneurinBevan

                                  - Instagram: @bipaneurinbevan

                                  - Twitter: @BIPAneurinBevan

                                  - YouTube: @BIPAneurinBevan

 

Mae ein gwefan hefyd yn gwbl ddwyieithog - ewch i bipab.gig.cymru neu cliciwch 'cymraeg' yn y gornel dde uchaf pan ar ein gwefan Saesneg.

Cofiwch, os ydych chi am gysylltu â ni yn Gymraeg, byddwn yn eich ateb yn Gymraeg.

                                                  #Maegenihawl

 

Ewch i wefan y Comisiynydd Iaith Gymraeg i gael mwy o wybodaeth am eich Hawliau Iaith Gymraeg.