Neidio i'r prif gynnwy

Cipolwg ar sut fydd Ganolfan Iechyd a Lles newydd Tredegar yn edrych

13 Ebrill 2021

Mae'r delweddau newydd cyffrous hyn yn dangos sut y gallai Canolfan Iechyd a Lles Tredegar newydd edrych unwaith y bydd yn agor i'r cyhoedd yng Ngwanwyn 2023.

Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru’r achos busnes llawn ar gyfer y datblygiad newydd y mis diwethaf ac mae bwriad i adeiladu’r cyfleuster newydd ddechrau ar unwaith. Mae'r Ganolfan yn cael ei hadeiladu ar hen safle Hysbyty Tredegar.

Bydd y Ganolfan Iechyd a Lles yn gartref i ddau Feddygfa Teulu bresennol sy'n gweithio'n annibynnol; Canolfan Iechyd Tredegar a Meddygfa Glan-yr-Afon. Bydd y ganolfan yn dod ag ystod o wasanaethau i gleifion ynghyd mewn un lle, gan gynnwys Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, Fferylliaeth Gymunedol a Deintyddiaeth Gymunedol, Gwasanaethau Cymunedol, Gofal Cymdeithasol a Phartneriaid y Trydydd Sector. Mae'r datblygiad hwn yn elfen sylfaenol o'r model Dyfodol Clinigol ym Mwrdeistref Blaenau Gwent, gan helpu'r Bwrdd Iechyd i ddarparu ystod eang o wasanaethau yn agosach i'r cartref i'r gymuned leol.



Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio’n agos gyda thrigolion lleol, ynghyd â sicrhau bod etifeddiaeth hen Ysbyty Tredegar yn cael ei chynrychioli yn yr adeilad newydd.

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae ein rhaglen Dyfodol Clinigol parhaus yn ein hymrwymo i symud gofal yn agosach at gartrefi pobl ac mae’r ganolfan newydd hon yn Nhredegar yn galluogi cleifion i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o dan un to yng nghanol eu cymuned eu hunain.”