Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Diwrnod Hawliau'r Iaith Gymraeg!

Dydd Mercher 7 Rhagfyr 2022

Heddiw, rydym yn cefnogi Diwrnod Hawliau’r Iaith Gymraeg, sy’n codi ymwybyddiaeth o’r hawliau sydd gan gleifion i ddefnyddio’r Gymraeg gyda ni..

Mae’r Gwarchodwr Diogelwch yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Richard, yn dod â llawenydd inni gydol y flwyddyn gyda’i bersonoliaeth hapus a’i ganu llon. Mae bob amser yno i gyfarch staff ac ymwelwyr yn Gymraeg - mae 'bore da' neu 'nos da cariad' cyfeillgar yn siŵr o wella diwrnod unrhyw un.

Mae Richard yn ddysgwr Cymraeg brwd ag angerdd dros groesawi ymwelwyr gyda'i cyfarchion dwyieithog (mae ei sgôr Duolingo hefyd yn anhygoel!)

Mae bellach wedi dechrau dysgu ei gân Gymraeg gyntaf, 'Myfanwy'. Da iawn Richard!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Catrin yn Nyrs Iechyd Meddwl Cymunedol yn Ysbyty'r Sir, ac yn siarad Cymraeg yn rhugl. Yma, mae’n sôn am sut y gall cyfathrebu â chlaf yn eu dewis iaith wneud gwahaniaeth enfawr i’w profiad.