Neidio i'r prif gynnwy

"Rwy'n un o'r menywod" meddai un o ddim ond sawl bydwraig gwrywaidd prin yng Nghymru

Dyma Mark Smart, bydwraig Staff ar y ward ysgogi'r esgor yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Yn un o ddim ond sawl bydwraig gwrywaidd yng Nghymru, mae'n falch o ddod i'w waith bob dydd.

"Dim ond i weld bywyd newydd yn dod i'r byd a chithau wedi bod yn rhan fach iawn ohono, ac yna i afael yn y babi hwnnw a'i roi i'r fam, mae'n wych." Dywedodd Mark.

Wynebodd Mark, sy'n nyrs y GIG ers dros 25 mlynedd, sawl her ar y dechrau pan oedd o eisiau dod yn fydwraig. Yn y 1970au, nid oedd dynion yn cael bod yn rhan o'r proffesiwn. Erbyn canol y 90au, yn dilyn ymdrechion gan nyrsys gwrywaidd yn ymgyrchu dros gael hawl i'r proffesiwn, bu newid.  Yn y cyfnod modern, caniateir i ddynion fynd i'r ystafell esgor ac i ddod yn fydwragedd a daeth Mark yn fydwraig yn 2005.

"Hoffwn feddwl fy mod yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw. Rydych yn ceisio lleddfu pethau a gwneud pethau'n haws. Mae'n rhaid i chi fod yn ofalgar, y garedig iawn, yn gydymdeimladol a cheisio bod yn gywir gyda merched yn fy marn i. Maent yn dibynnu arnoch i ddod drwy hyn." Dywedodd Mark

"Mae'n gallu mynd yn drech na phawb pan mae'r babi'n cael ei eni, i'r fydwraig hyd yn oed, mae'n hollol anhygoel ac nid ydych yn anghofio hynny." Ychwanegodd

Ers 2005, mae wedi gweithio gyda miloedd o gleifion gan ddod i ochr ysgogi'r esgor gofal cleifion bydwreigiaeth fel rhan o'i rôl fwyaf diweddar. Y ward ysgogi'r esgor, ble mae Mark a'i gydweithwyr yn gweithio, yw lle mae cleifion yn dod i ysgogi'r esgor am sawl rheswm, o fod yn sâl i fod tu draw i'w dyddiad esgor.

Mae cleifion wedi gwneud sylwadau am Mark ar y cyfryngau cymdeithasol:


"Roedd yn wych pan gefais fy mabi cyntaf drwy Doriad Cesaraidd yn 2016, roedd gyda fi drwy'r cyfan. Ac wedyn, pan oeddwn yn teimlo'n chwil roedd yn gwybod yn union beth i'w ddweud a'i wneud. Roedd yn wych ac o help i mi a fy ngŵr. Diolch am yr holl waith a wneir." Dywedodd un claf.

"Roeddwn yn nerfus o gael dyn ar y dechrau ond roedd yn anhygoel, a byddwn wedi dymuno ei gael ar gyfer yr ail esgor, ni allwn fod wedi gofyn am well gofal na chymorth!" meddai un arall.

 

"Am berson anhygoel ydyw. Diolch am yr holl gymorth dros y blynyddoedd Mark, fe wnaeth gymaint o wahaniaeth dy gael yno."  Mae'r sylwadau'n parhau.

 

Mae Mark yn parhau fel bydwraig staff yn yr ysbyty ac yn sicrhau pawb, waeth beth fo'u cefndir, yn enwedig dynion, bod croeso iddynt wneud cais i fod yn fydwraig os oes ganddynt y cymwysterau a'r sgiliau cywir.