Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Hanesyddol y Bwrdd Iechyd wrth i Gymru ddechrau Brechiadau COVID-19

Mae'r diwrnod wedi cyrraedd o'r diwedd wrth i Gwent ddechrau ar ei ffordd i adferiad. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i dderbyn cyflenwadau o'r brechlyn yr wythnos diwethaf, a heddiw mae tîm enfawr o Feddygon a Nyrsys wedi dod yn un o'r cyntaf i ddechrau brechu poblogaeth Gwent, gan amddiffyn pobl rhag Coronafeirws.

 

 

Lluniwyd ar y dde yw ein haelod staff rheng flaen cyntaf yn cael ei frechu er mwyn amddiffyn ei gleifion a'i gymuned.


Yn ei eiriau ei hun, 'mae heddiw'n ddiwrnod hanesyddol ac yn un o obaith y gall bywyd ddychwelyd i’r arfer cyn bo hir'.

 

 

 

Dyma Dr Ami Jones (chwith), Ymgynghorydd ITU, yn derbyn ei brechiad COVID-19. Mae Ami wedi bod yn llais cryf drwy gydol y pandemig ac mae'n parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn ei hun a bywydau ei chleifion.

Dywedodd Ami 'Rwy'n teimlo'n lwcus iawn fy mod wedi cael brechiad COVID-19 heddiw. Sicrhewch eich un chi pan gewch eich cynnig a chadwch bellter cymdeithasol, daliwch ati i wisgo gorchydd wyneb ac aros yn eich swigod; mae diwedd hyn yn y golwg ond mae'n dal gryn bellter i ffwrdd ac mae'n hysbytai'n brysurach nag erioed.'

 

Mae'r diwrnod hanesyddol hwn yn cael ei gipio gan y cyfryngau- Newyddion Sky, ITV, BBC a Channel 4.

Gyda'n gilydd byddwn yn curo COVID-19

Am y gwybodaeth diweddaraf ar y stori hon, dilynwch ni ar Facebook a Twitter.