Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru yn dathlu PRIDE

Mae'r Bwrdd Iechyd bob amser wedi cefnogi'r gorymdaith 'Balchder' ('PRIDE') blynyddol trwy strydoedd Caerdydd i ddangos ein cefnogaeth i'n cymuned a'n staff LGBT+, ond gan nad yw hyn yn bosibl eleni oherwydd y Pandemig, roeddem am roi gwybod ichi y bydd ein dathliadau PRIDE yn symud ar-lein.

Mae GIG Cymru yn dod ynghyd i gynnal wythnos PRIDE rithwir ym mis Awst, bydd hyn yn cynnwys llawer o wahanol weithgareddau a digwyddiadau i bawb gymryd rhan ynddynt. Rydym yn edrych ymlaen at adael i chi wybod mwy wrth i'n cynlluniau ddod at ei gilydd.

Mae ein cefnogaeth i PRIDE yn un ffordd yr ydym yn dangos ymrwymiad ein Bwrdd Iechyd i gydraddoldeb LGBT+