Neidio i'r prif gynnwy

Yr Uchel Siryf yn Dyfarnu Gwobr Gymunedol i Bridge Dental Care

Roedd yna gyffro yn Bridge Dental Care ddydd Mercher 18fed Ionawr wrth i'r tîm yn Bridge Dental Care, Trecelyn groesawu Uchel Siryf Gwent a ddyfarnodd wobr iddynt yn cydnabod eu gwasanaeth gwych a'r gwasanaethau gwerthfawr i drigolion lleol a'r gymuned.

Wrth i'r Uchel Siryf gyflwyno'r wobr, dywedodd sut y mae'r wobr yn cydnabod pobl sy'n gwneud eu cymuned yn lle gwell a sut y bu i Berchennog y Practis, Len Smart, weld yn gynnar iawn, a chyn pawb arall, yn ystod y pandemig, sut yr oedd covid yn effeithio ar ddeintyddiaeth gan fynd ati wedyn i ddarparu gwasanaeth mwy diogel a mwy addas i'w cleifion.

Dywedodd Len Smart, Perchennog y Practis Bridge Dental Care, "Diolch am y wobr, rydym yn deulu ac yn dîm sy'n ein galluogi i wneud yr hyn a wnawn. Rydym i gyd yn falch iawn o dderbyn y wobr hon heddiw. Hoffem ddiolch hefyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am eu holl gymorth."