Neidio i'r prif gynnwy

Helpwch ni i ddychwelyd eich anwyliaid yn ôl i'w cartref yn ddiogel y Nadolig hwn

Dydd Iau 24 Rhagfyr 2020

Rydym yn apelio ar deuluoedd i gefnogi eu hanwyliaid i ddychwelyd adref o'n hysbytai unwaith y byddant yn iach.

Mae ein hysbytai o dan bwysau eithriadol wrth i fwy a fwy o bobl fynd yn sâl o'r Coronafeirws yn ein cymuned ac angen ein gofal.

Rydym i gyd am amddiffyn aelodau ein teulu rhag y Coronafeirws ac mae canllawiau'r llywodraeth yn caniatáu i deuluoedd ddarparu cymorth fel y gall eu hanwyliaid ddychwelyd adref o'r hysbyty.

Helpwch ni i ddychwelyd eich anwyliaid adref yn ddiogel y Nadolig hwn.