Oherwydd y nifer cynyddol o achosion o Covid-19 yn y gymuned, y nifer cynyddol o achosion o Covid-19 ar wardiau a'r nifer o staff sy’n absennol oherwydd Covid-19, rydym yn gofyn i holl staff ac ymwelwyr ysbytai wisgo masgiau mewn ardaloedd clinigol, ar unwaith.
Diolch am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad i leihau’r risg i’n cleifion a’n staff. Byddwn yn parhau i adolygu sefyllfa Covid-19 mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol, a byddwn yn diweddaru yn unol â hynny.