Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Gwasanaeth SignLive Newydd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn falch o fod yn lansio gwasanaeth SignLive, i gefnogi ein defnyddwyr Byddar a BSL i gael mynediad at ein gwasanaethau. Byddant yn gallu defnyddio SignLive i wneud galwadau ffôn a chynorthwyo â chyfathrebu personol mewn sefyllfaoedd lle nad oes cyfieithydd wyneb yn wyneb ar gael.

Bydd y gwasanaeth ar gael yn y meysydd canlynol;

  • Damwain ac Argyfwng – gan gynnwys mân anafiadau
  • Gwasanaeth mamolaeth a chyn-geni
  • Cleifion allanol
  • Canolfan Archebu
  • Canolfannau brechu torfol ac un ganolfan brawf
  • Gweithio i Wella – codi unrhyw bryderon
  • Meddygfa Y Parciau

 

https://vimeo.com/669366184/b0c9096d90