Neidio i'r prif gynnwy

Mae Meddyg o'r Bwrdd Iechyd yn ymddangos mewn llyfr newydd a lansiwyd gan Dduges Caergrawnt

Mae meddyg o’r Bwrdd Iechyd a dynnodd lun ohoni ei hun ar ôl gwisgo PPE ar anterth y pandemig y llynedd wedi ymddangos mewn arddangosfa a llyfr cenedlaethol fel rhan o fenter a lansiwyd gan Dduges Caergrawnt Kate Middleton.


Dewiswyd y llun 'hunlun' o Dr Ceri Hayles - cofrestrydd mewn obstetreg a gynaecoleg yn Ysbyty Grange - fel un o 100 delwedd o fwy na 31,000 o gofnodion ar gyfer yr arddangosfa ddigidol 'Hold Still' yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol y llynedd. Ac yn awr, mae'r llun yn ymddangos yn y llyfr cysylltiedig o'r un teitl i nodi 'cipolwg ar fywyd yn ystod y cyfnod clo'


“Mae’n anrhydedd cael sylw yn yr arddangosfa a’r llyfr, ac o’r herwydd bod yn rhan o hanes,” meddai Ceri.


Cafodd Ceri ei chyfweld gan Lorraine Kelly ar ei rhaglen frecwast boblogaidd ITV fore Gwener a dywedodd, “Roedd Lorraine mor hyfryd ac roedd hi wir yn fy rhoi yn gwneud siarad ar deledu byw yn hawdd!"