Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect Rhagsefydlu ac Optimeiddio Iechyd Lle Amheuir Canser Aneurin Bevan

Mae cyllid wedi'i rhoi gan Rwydwaith Canser Cymru a chronfa Arloesi Comisiwn Bevan ar gyfer Prosiect Optimeiddio a Rhagsefydlu Iechyd Lle'r Amheuir Canser.

Fel rhan o’r prosiect, mae’r tîm yn awyddus i gynnal adolygiad i glywed gan bobl sydd wedi'i atgyfeirio'n ddiweddar i ddiystyru neu gadarnhau diagnosis canser.

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar wybodaeth benodol am faeth, ymarfer corff, lles yn ogystal ag ysmygu ac alcohol ar adeg pan fo unigolion yn cael eu hymchwilio am amheuaeth o ganser a bydd yn helpu'r tîm i wella'r wybodaeth y maent yn ei darparu.

Hoffai tîm y prosiect ddeall y wybodaeth y mae unigolion wedi'i derbyn, neu y byddent wedi hoffi ei chael, mewn perthynas â'u hiechyd a'u lles.

Mae'r tîm yn galw ar unigolion sydd wedi cael atgyfeiriad i ddiystyru neu gadarnhau diagnosis canser, sy'n fodlon rhannu eu profiad fel claf trwy lenwi holiadur mynediad at wybodaeth iechyd a lles ar-lein. Dim ond tua 10 munud y dylai’r holiadur ei gymryd i’w gwblhau, a bydd eich barn yn cael ei defnyddio i gynllunio gwybodaeth a ddarperir i bobl yn y dyfodol.

Dywedodd Dr Tom Howson, Arweinydd Arloesi Comisiwn Bevan:

"Mae'n bleser gan Gomisiwn Bevan gefnogi'r prosiect arloesol hwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae'n gyffrous am yr effaith gadarnhaol y gallai hyn ei chael ar iechyd a lles cleifion yr amheuir bod ganddynt ganser ledled Cymru."

Os hoffech chi ofyn unrhyw gwestiwn cyn penderfynu a ydych am gymryd rhan ai peidio, cysylltwch ag arweinwyr y prosiect Sian.M.Lewis2@wales.nhs.uk neu Anne.May@wales.nhs.uk