Neidio i'r prif gynnwy

"Rhoddodd Cwrs Gloywi yr Hyder i Mi Rhoi Cynnig Arni" Meddai Dysgwr Cymraeg

Dydd Gwener 14 Hydref 2022

Bob blwyddyn, cynhelir Diwrnod Shwmae Su'mae ar 15 Hydref er mwyn annog pawb i roi cynnig ar y Gymraeg; waeth beth yw eu lefel.

Er gwaetha’r camsyniad cyffredin mai dysgu Cymraeg yn ifanc neu yn yr ysgol yw’r unig ffordd i ddod yn rhugl, mae modd dysgu Cymraeg ar unrhyw oedran – ac mae’n haws nag y byddech chi’n diswgyl.

Ni ddechreuodd Rhys Benjamin, Gweithiwr Mewngymorth Iechyd Meddwl mewn Ysgolion i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ei daith Gymraeg tan ei fod yn 18 oed, lle bu byw gyda siaradwr Cymraeg rhugl yn ei sbarduno i roi cynnig arni ei hun.

Ers hynny, y bu'n manteisio ar bob cyfle i ymarfer ei sgiliau Cymraeg ac yn ddiweddar, cymerodd ran mewn cwrs i roi hwb i'w hyder. Dywedodd Rhys y bu'r cwrs yn ei ddysgu nad oes rhaid iddo ddefnyddio Cymraeg berffaith i gael ei ystyried yn siaradwr Cymraeg.

Dyma Rhys yn esbonio mwy yn y fideo isod:

Da iawn Rhys, rwyt ti'n ysbrydoliaeth!

Beth am roi cynnig ar y Gymraeg heddiw? Dod o hyd i gwrs | Dysgu Cymraeg