Neidio i'r prif gynnwy

Sganiwr CT Newydd Wedi'i Teilwra i blant yn Ysbyty Athrofaol y Faenor

Mae’r tîm Radioleg yn Ysbyty Athrofaol y Faenor wedi gweithio’n galed i greu sganiwr CT sy’n addas i blant. Mae sgan tomograffeg gyfrifiadurol (CT) yn dechneg delweddu feddygol a ddefnyddir i gael delweddau mewnol manwl o'r corff. I wneud hyn, rhaid i'r claf fynd trwy beiriant siâp toesen a gorwedd yn llonydd iawn am ychydig funudau.

I lawer o blant, ac oedolion, gall hon fod yn broses frawychus a fydd yn aml yn arwain at dawelu’r claf cyn mynd i mewn i’r sganiwr. Fodd bynnag, gyda chymorth ein cyflenwyr yn Canon, mae’r tîm Radioleg wedi gallu creu sganiwr CT addas i blant sydd wedi’i gynnwys yng ngwaith celf Ferdinand the Fox a Betty the Bunny.

Cyn pob sgan, bydd y claf pediatrig yn derbyn taflen lle mae Ferdinand the Fox a Betty the Bunny yn esbonio beth sy'n mynd i ddigwydd iddyn nhw. Anogir y claf wedyn i chwarae gyda'r sganiwr CT mini a'r tedi sy'n dangos yr un broses ag y bydd yn mynd drwyddi. Mae hyn yn aml yn cael ei arwain gan un o’n Therapyddion Chwarae. Erbyn i'r claf gael ei sgan, maent yn aml wedi ymlacio ac yn gyffrous i gopïo'r hyn y mae eu tedi newydd ei wneud.

Yn ogystal, mae Innovision wedi'i ychwanegu at y sganiwr MRI yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Mae hwn yn welliant sylweddol arall yn y gwasanaeth a ddarperir trwy ddefnyddio technoleg sydd wedi helpu i leihau nifer yr anesthetigau cyffredinol sydd eu hangen ac sydd wedi galluogi'r tîm i gefnogi'r claf clawstroffobig yn well. Mae hyn yn galluogi cleifion i wylio ffilm yn ystod eu sgan MRI sy'n helpu'r claf i aros yn llonydd.

Meddai Helen Hopkins, Uwcharolygydd CT ac MRI, “Mae cyflwyno'r sganiwr CT sydd wedi'i teilwra at blant wedi lleihau nifer y tawelyddion a roddir i blant, sydd wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae’n golygu na fydd yn rhaid i’r claf aros i mewn ar ôl cael tawelydd i gael ei fonitro cyn mynd adref.”