Neidio i'r prif gynnwy

Teulu yn Rhannu Profiad o Roi Organau

Dydd Iau 29 Medi 2022

Fel rhan o Wythnos Rhoi Organau 2022, a gynhelir rhwng 26 Medi a 2 Hydref eleni, mae teulu lleol wedi rhannu eu profiad o roi organau.

Collwyd mab annwyl i Rob a Sue Edwards, Jamie, o Gasnewydd, yn 2017 ar ôl iddo ddioddef anaf trychinebus i’r ymennydd wrth gwympo yn ei gartref oherwydd ffit epileptig yn 25 mlwydd oed, ac maen nhw’n dweud mai gallu rhoi ei organau oedd eu hunig ffordd o gysur ar ôl ei farwolaeth.

Yn dilyn eu colled anodd, nid oedd yn rhaid i Mr a Mrs Edwards feddwl yn rhy hir am y cwestiwn nesaf a ofynnwyd iddynt - a oeddent yn gwybod a oedd Jamie ar y gofrestr i roi ei organau a'i feinwe.

Dywedodd Rob Edwards, tad Jamie:

“Mae’n rhywbeth roedden ni’n gwybod ei fod eisiau, beth bynnag oedd ei oedran. Wrth gwrs, pan ymunodd â’r Gofrestr Rhoi Organau, nid wyf yn meddwl ei fod yn disgwyl bod yn rhoi mor fuan, ond roeddem yn sicr o’i benderfyniad.

“Beth yw pwynt mynd â rhywbeth gyda chi nad oes ei angen arnoch chi? Fe ddywedon ni wrthyn nhw y gallen nhw gymryd yr hyn sydd ei angen arnyn nhw. Roedd y ffordd y gwnaethant bopeth yn yr ysbyty yn wych.”

Ymhlith rhai o roddion Jamie roedd ei arennau, yn ogystal â rhywfaint o'i feinwe.

Wrth siarad am y profiad, dywedodd Rob: “Rydych chi'n teimlo'n well. Mae’n dod â rhywfaint o gysur a dyma’r unig beth bositif y gallwch chi ei gymryd o rywbeth mor ddinistriol, a dyna pam rydyn ni ond yn ei weld yn beth bositif bod Jamie wedi gallu rhoi ei organau.”

Ar ôl bod yn dyst i'r broses o roi organau, cafodd y profiad effaith barhaol ar rieni Jamie, lle buont yn sicrhau eu bod nhw hefyd ar y gofrestr Rhoi Organau eu hunain.

Dywedodd Rob: “Ychydig ddyddiau ar ôl i Jamie farw a rhoi ei organau, fe ddiweddarais i a Sue ein manylion i wneud yn siŵr ein bod ni wedi dewis rhoi ein horganau hefyd.”


Nyrs Rhoi Organau Arbenigol

Nyrs Rhoi Organau Arbenigol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw Sharon Keightley.

Gweler pob dim am ei rôl isod..

Fy enw i yw Sharon, ond mae pawb yn fy nabod i fel Shazza. Rwy'n Nyrs Arbenigol ar gyfer Rhoi Organau (sy'n cael ei adnabod fel SNOD!) ac rwy'n rhan o Dîm Rhoi Organau De Cymru.

Rwyf wedi bod yn fy rôl am ychydig dros 3 blynedd, ar ôl gweithio yn yr Uned Gofal Dwys am flynyddoedd lawer cyn hynny. Rwyf bellach wedi fy lleoli yn yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor fel Nyrs Arbenigol. Mae Cleifion Mewndiwiedig Lefel 3 yn cael eu hatgyfeirio atom pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud i dynnu Triniaeth Cynnal Bywyd yn ôl. Byddwn yn edrych ar y Gofrestr Rhoi Organau i weld a oes penderfyniad wedi'i gofrestru.

Rydym yn siarad â’r teulu i sefydlu’r penderfyniad hysbys diwethaf y maent yn gwybod amdano ynghylch rhoi organau, ac os oes cofrestriad wedi’i ganfod ar y Gofrestr Rhoi Organau, gofynnwn i’r Perthynas Agosaf gefnogi’r penderfyniad a wnaed, megis Optio i Mewn, yna byddaf i a fy Nhîm yn eu cefnogi drwy'r broses. Hyd yn oed os ydynt yn optio allan, byddwn yn cefnogi'r teulu a'r staff.

Yn aml, mae gan y teulu lawer o gwestiynau ac rydyn ni yno i'w hateb.

Pan fydd gennym roddwyr, mae'n hyfryd clywed bod yr organau a roddwyd wedi'u trawsblannu a bod y derbynnydd yn gwneud yn dda.

Rwy’n gofalu am deuluoedd sydd, yn eu cyfnod tywyllaf o alar, yn cefnogi penderfyniad anwyliaid i roi organau, ac yna clywn fod plentyn wedi cael calon neu ysgyfaint newydd, neu fod rhywun wedi derbyn rhodd golwg trwy roi cornbilen.. Gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Fy mhrif neges i bawb yw cofrestru eich penderfyniad ar y Gofrestr Rhoi Organau a siarad â’ch teulu a’u gadael yn sicr o’ch penderfyniad. Ni fydd eich teulu yn gwybod sut rydych yn teimlo am roi organau oni bai eich bod yn dweud wrthynt, felly siaradwch amdano.


 

 

Drwy gydol Wythnos Rhoi Organau 2022, mae Ymddiriedolaeth Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn annog pawb i ddiweddaru eu dewisiadau ar y Gofrestr Rhoi Organau, ac i sicrhau bod eu teulu’n ymwybodol o’u penderfyniad.

Er bod y newidiadau yn y ddeddfwriaeth yn 2015 yn golygu bod unigolion bellach yn cael eu dewis yn awtomatig i gyfrannu oni bai eu bod yn cofrestri dewis arall, gall teuluoedd ddiystyru penderfyniad eu hanwyliaid os ydynt yn ansicr. Trafod dewis rhodd gydag anwyliaid yw'r unig ffordd i adael rhai o'r dymuniadau hyn iddynt a bydd yn osgoi unrhyw orfodaeth ychwanegol ddiangen.